Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2016
Amser: 10.02 -
11.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3873
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Sarah Tully, Llywodraeth Cymru Emma Cordingley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Emma Cordingley - Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru; a Sarah Tully - Rheolwr Prosiect Polisi Treth Ddatganoledig, Llywodraeth Cymru ynghylch Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n:
· darparu manylion am y gyfran o dreth tirlenwi a delir gan awdurdodau lleol;
· darparu rhestr o'r deunyddiau cymwys presennol; ac
· ysgrifennu at y Pwyllgor yn dilyn y trafodaethau ynghylch i ba raddau y mae'r Bil yn ymdrin â chloddio glo brig.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i wahodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi tystiolaeth lafar yn y Flwyddyn Newydd.
7.1 Nododd y Pwyllgor ei ofynion yn unol â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.